Emily Phipps ac Avril Rolph

join us for thesweet sixteen of

Ar wahân i Dŷ Hendrefoilan, (tŷ Amy Dillwyn o blog blaenorol), ein cymydog agosaf ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoilan yw Adeilad Emily Phipps. Mae nifer o adrannau wedi defnyddio’r adeilad dros y blynyddoedd, ond nid yw rhan fwyaf o ymwelwyr yn ymwybodol o’r fenyw eu hun.

Mae’r blog yma yn edrych ar fywyd a chyflawniadau Emily a hefyd yn deyrnged i Avril Rolph, awdurdod allweddol ar y pwnc. Roedd Avril yn aelod sylfaenol o Archif Menywod Cymru ac yn ffrind da i Lyfrgell y Glowyr ac roeddwn yn drist i glywed am ei farwolaeth. Fe wnaeth gyrfa Avril – fel llyfrgellydd, archifydd ac ymchwilydd – gwneud hi awdurdod ar hanes ffeministaidd ac yn bwysig iawn yn y maes. Fe ddaeth hi’n Is-lywydd Anrhydeddus o Archif Menywod Cymru yn 2011, sy’n adlewyrchu ei chyfraniad enfawr yn y sefydliad.

Ganwyd Emily Frost Phipps yn Nyfnaint yn 1865. Roedd gyrfa mewn addysg yn amlwg o oes gynnar pan ddaeth hi’n athro disgybl mewn ysgol elfennol babanod pan oedd hi dal yn astudio. Ar ôl cael ei derbyn i Goleg Hyfforddi Homerton, wnaeth gyrfa addysg Emily cynyddu gyda mwy o gyfrifoldeb a phwysigrwydd. Pan ddaeth hi fel pennaeth i Ysgol Ganolog Gradd Uwch Abertawe, wnaeth yr arolygwyr o’r Bwrdd Addysg yn ei ganmol fel un o’r ysgolion gorau yng Nghymru, yn esbonio llawr o’r llwyddiant fel gwaith caled Emily.

Wnaeth Avril Rolph dod o hyd i erthygl yn South Wales Daily Post yn 1897 sydd yn dangos effaith Emily ar yr ysgol:

“Miss Phipps and her hardworking, able and conscientious staff continue to raise the character of the tone and instruction, which now reflect great credit upon all concerned.”

Heb law am ddysgu, roedd Emily hefyd yn angerddol am achosion gwleidyddol i ymwneud a hawliau menywod. Mae ei bywgraffiad yn sôn fe wnaeth hi ymuno a’r ‘Women’s Freedom League’ ar ôl gweld Lloyd George yn dangos ymddygiad sarhaus tuag at Swffragetiaid mewn cyfarfod yn Abertawe. Ar ôl sefydlu cangen yn Abertawe, fe wnaeth Emily roi areithiau, cymryd rhan mewn protestiadau a rhoi ei chefnogaeth i nifer o achosion menywod cynnar. Fel aelod o Undeb Gwladol Athrawon Benywaidd – grŵp pwysedd yn Undeb Gwladol Athrawon – fe wnaeth Emily ymgyrch am daliadau cyfartal a ddaeth hi arlywydd adran Abertawe yn 1915. Ymhen, oherwydd diffyg cefnogaeth, wnaeth hi oruchwylio’r undeb menywod yn gwahanu.

Mae gyrfa Emily ar ôl hyn yn cynnwys nifer o swyddi, wedi’i uno gan achosion ffeministaidd. Fe ddaeth hi’n Arlywydd y NUFT, golygydd cylchgrawn Woman Teacher a, yn 1925, bargyfreithiwr ar gyfer Cymdeithas Wladol Athrawon Benywaidd. Yn 2013, osodwyd plac glas ar Orchard Street yn Abertawe yn coffáu ei chyflawniadau. Avril oedd prif siaradwr ar gyfer y dadorchuddio, ac roedd hwn yn cymwys oherwydd ei ymchwil arbennig ar fywyd Emily.

Fe gyhoeddwyd traethawd Avril, ‘Definitely not a doormat: Emily Phipps, feminist, teacher and trade unionist’ yn Minerva: The Swansea History Journal yn 2014 ac mae’n trafod nifer o ddigwyddiadau allweddol. Er enghraifft, fe wnaeth Emily ymneilltua ei chais am y swydd pennaeth yn Abertawe, ac yn derbyn eto pan wnaethon nhw hefyd cynnig swydd i’w chydymaith Clara Neal. Mae’r erthygl hefyd yn disgrifio ei phrotest y cyfrifiad yn 1911, a oedd yn dangos i bobl ni dyle menywod cyfrannu at ystadegau’r llywodraeth os nod oedd y wladwriaeth yn gweld nhw fel dinasyddion. Ar wahân i ddarparu mwy o wybodaeth am gais Emily i ddoed yn aelod o’r senedd yn 1918, mae’r erthygl hefyd yn cynnwys dyfyniadau o erthyglau papur newydd a lluniau o Emily.

Mae gwaith beirniadol fel hwn yn gadel i Emily cael ei gwerthfawrogi del ffeminist cynnar ac, oherwydd ei pherthynas gyda Clare Neal, mae rhai hanesion lesbiaidd yn cynnwys hi. Mae Llyfrgell y Glowyr yn cadw llyfrau am Emily (fel Deeds not Words gan Hilda Kean) a llyfrau ganddi hi: “A History of the National Union of Women Teachers“. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Ffynonellau

Rolph, Avril, ‘Definitely not a doorma: Emily Phipps, feminist, teacher and trade unionist’, Minerva (2014)

Kean, Hilda, ‘Emily Phipps’, Oxford Dictionary of National Biography (2008)

Mae Llyfrgell Wladol Cymru yn cadw nifer o bapurau newyddion, fel rhan o Bapurau Newyddion Ar-lein, sy’n darparu manylion o fywyd Emily yn Abertawe.

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s